Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau a dweud imi ddefnyddio cynnig
David gan eu bod yn cydfynd yn berffaith a'r darn. Hoffwn hefyd ddweud
fy mod yn hoffi awgrymiadau Mary - mae'n gweithio'n dda.
Muiris
On 20/02/07, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:
> Cynnig gan ddefnyddio awgrym David 'gollyngdod'. 'Gollyngdod rhannol o'r
> afiechyd' am 'partial remission' a 'gollyngod llwyr o'r fiechyd' am
> 'complete remission'. Ar gyfer y cymal penodol dan sylw, felly, gellid cael
> 'sy'n helpu parhau gollyngod i'r claf o'i afiechyd'.
> Mary
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
> Sent: 20 February 2007 14:31
> To: [log in to unmask]
> Subject: In remission
>
> Dyma un diffiniad ar wefan Sefydliad Canser UDA:
>
> A decrease in or disappearance of signs and symptoms of cancer. In partial
> remission, some, but not all, signs and symptoms of cancer have disappeared.
> In complete remission, all signs and symptoms of cancer have disappeared,
> although cancer still may be in the body.
>
> Ac mae Geiriadur yr Academi wedi cofnodi 'ysgafnhad', 'saib', 'ysbaid' a
> 'gollyngdod' fel enwau sy'n cyfateb, ym maes meddygaeth, i 'remission'.
>
> Yn y frawddeg benodol yma, fyddai rhywbeth fel 'sy'n helpu i sicrhau
> gollyngdod parhaus i'r claf' neu 'sy'n helpu i ymestyn gollyngdod y claf o'i
> salwch' yn gweithio?
>
> Yn fwy cyffredinol, gan fod 'remission' yn cael ei leddfu yn gyffredin â'r
> geiriau 'partial' a 'complete', byddai'n dda cael ymadrodd a fyddai'n
> gweithio'n hwylus yn y tri chyfuniad – 'in remission', 'in partial
> remission' ac 'in complete remission'.
>
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris Mag
> Ualghairg
> Anfonwyd/Sent: 20 February 2007 13:42
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: In remission
>
> Gofynnais i ryw bedwar diwrnod yn ol am help i gyfieithu 'which help
> to keep the patient in remission' a heb dderbyn dim awgrymiadau, felly
> dyma fi'n gofyn eto. Oes gan unrhyw un awgrym ysbrydoledig ar sut i'w
> gyfieithu.
>
> Diolch
> Muiris
>
> --
> This message has been scanned for viruses and
> dangerous content by SAQNET SpamAlizer www.saq.co.uk, and is
> believed to be clean.
>
|