Muiris - 'dych chi wedi dal Bruce allan! 'Doedd o ddim wedi clywed am
"llorio" yn yr ystyr 'na, ond mae yn GPC. 'Roedd o ar yr union drywydd, ac
wedi cynnig teitl sy'n dod o'r gair "tirio" sy'n golygu'r un peth (Mae
"tirio" a "tiriad" yn GPC hefyd). 'Dw i'n bwriadau defnyddio "prosiect
tiriadau mamaliaid mo^r" (sy'n ateb cwestiwn Mary hefyd).
Defnyddiaf yr ymadrodd heb briflythrennau'r tro 'ma, ond, oni chlywaf yn
sydyn ryw reswm da dros peidio a'i wneud, byddaf yn ysgrifennu at
gyfieithwyr CCW ac at gyd-lynydd y prosiect i awgrymu y dylid mabwysiadau'r
enw.
Diolch yn fawr iawn i bawb,
Ann
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 23, 2007 11:44 AM
Subject: Re: Strandings Project
> Pan mae llong yn mynd yn sownd ar y traeth mae'n cael ei llorio, tybed
> a fyddai modd ehangu'r ystyr ychydig a'i ddefnyddio ar gyfer
> anifeiliaid y mor hefyd? Anifeiliaid y mor wedi'u llorio, anifeiliaid
> morol lloriedig.
>
> Muiris
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.441 / Virus Database: 268.18.3/698 - Release Date: 23/02/2007
> 04:39
>
>
|