Gas gen i "deliver" yn yr ystyr "cyflawni": ffiloreg pennau defaid o
reolwyr nad yw Saesneg eglur yn ddigon da ganddynt. Wir yr, bu gofyn imi
gyfieithu "we are delivering deliverables" ychydig fisoedd yn ol.
Cyfarwyddyd Asiantaeth yr Amgylchedd yw mai gwaith y postmon
yw "delivering", ac y dylem ninnau ddefnyddio "cyflawni", "darparu",
neu "gwneud": "You cannot 'deliver outcomes', but you can 'get results'".
|