Mae "smwythun" ("smwythyn" yn well efallai?) newydd gael ei gynnig am "smoothie" ar faes-e (gan
gymeriad o'r enw Jeni Wine). Dw i'n licio "trwyth ffrwyth" a "llymaid llyfn" ond mae i "smwythyn" y
fantais ei fod yn swnio'n debyg i'r Saesneg ac yn gwneud synnwyr yn y Gymraeg. Dw i'n cymryd mai
"smwythod" yw'r lluosog - tipyn byrrach na "llymeidiau llyfn"
|