Pan fydd sefydliadau'n defnyddio logo sy'n cynnwys testun (e.e. enw llawn
y sefydliad) mi fyddaf (fel rheol) yn cyfieithu'r testun a gadael y
byrfodd (ac wrth gwrs unrhyw ddelwedd) yn y gwreiddiol. Mae hyn yn unol ag
enghreifftiau ar y we, e.e.
http://www.dca.gov.uk/consult/codepractise/consultationwelsh0506.pdf
Ond weithiau bydd angen tanlinellu gair sydd wedi'i danlinellu yn y
gwreiddiol, newid maint y teip ayyb, ac wrth wneud hynny caf y teimlad
weithiau na ddylwn wneud gormod o waith dylunio ar logo rhywun arall, yn
enwedig os yw'n newid sut mae'r logo yn edrych o safbwynt 'artistig' fel
petai.
Oes canllawiau yn rhywle ynglyn â hyn, a beth yw'r arfer gorau?
Diolch yn fawr,
Dafydd
|