Cytuno, os nad oes geiriad awdurdodol amgenach. Cyfeirio at weithgaredd gwerthu yn gyffredinol mae'r Ddeddf, yn hytrach mag at ryw werthiant penodol. Tim . . .
Efallai mai nodyn Delyth Prys am enwau deddfau Senedd San Steffan o dan y
pennawd "Co-operatives and Community Benefit Societies Act 2003" yn yr
archifau yw'r arweiniad sylfaenol ar y mater yma. Mewn ymateb i'r nodyn yna,
mae gan Tim Saunders awgrym wedyn ar sut i ddod o hyd i deitlau Cymraeg
deddfwraieth ddwyieithog y Cynlleied, sydd hefyd yn ddefnyddiol iawn.
Ond o ran yr enw penodol yma, un o'r cynghorion mwya di-ffael mewn unrhyw
gyd-destun yw bod y berfenw yn well fel arfer na'r enw yn Gymraeg wrth
gyfieithu o'r Saesneg. Byddwn i'n meddwl felly mai Deddf Gwerthu Nwyddau
yw'r gorau o'r ddau hyn.
_____
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Garan
Anfonwyd/Sent: 12 December 2006 01:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Sale of Goods Act
Beth yw teitl swydogol y ddeddf hon yn Gymraeg os gwelwch yn dda? Mae
'Deddf Gwerthu Nwyddau' a 'Deddf Gwerthiant Nwyddau' yn digwydd ar y we.
Diolch am bob goleuni.
Hg
|