Yn y rhestr ges i ma' 'smoothie' yn cynnwys ffrwythau, sudd, ychydig o
iogwrt wedi ei rewi a mae yna un yn ychwanegu mymryn o laeth. Mae'r 'dairy
smoothie' yn cynnwys ffrwythau, siocled iogwrt a llaeth. Yn amlwg mae yna
fwy o laeth yn y rhain nag o ffrwythau. Dwn i ddim be ydi'r gwahaniaeth
rhwng 'dairy smoothie' ag ysgytlaeth go iawn - ond mai efo powdr maent yn
cael eu gwneud yn fasnachol beth bynnag, a falle bod yna hufen ia ynddynt -
neu o ran hynny rhyngddynt a llaeth blas ffrwythau - erbyn meddwl! Ma' mhen
i'n dechrau troi!!
Mererid
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 07 December 2006 12:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Smoothie; Dairy Smoothie
Dwi'n cytuno - mae llymaid llyfn yn iawn am smoothie ffrwythau, ond fedra'i
ddim gweld bod "llyfnlaeth" yn gwneud unrhyw sens!
Ydi "dairy smoothie" yn cynnwys ffrwythau hefyd? Be di'r gwahaniaeth
rhyngddo ag ysgytlaeth? (sori, dangos anwybodaeth rhonc rwan.)
Geraint
----- Original Message -----
From: "GLENYS ROBERTS" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 07, 2006 12:19 PM
Subject: Re: Smoothie; Dairy Smoothie
Mi gewch chi sudd oren llyfn a sudd oren efo darnau bach ynddo! Dw i'n hoffi
'llymaid llyfn' fy hun!
----- Original Message -----
From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 07, 2006 10:23 AM
Subject: ATB: Smoothie; Dairy Smoothie
Mi wn i y bydd cwestiwn Geraint yn aros heb ei ateb yn sgil y cynnig hwn,
ond beth am 'llymaid llyfn' fel cyfieithiad o smoothie? (Dylai pob llymaid
hefyd fod yn llyfn, am wn i).
Mi fyddwn i wedi hoffi ei hawlio fel cynnig gwreiddiol, ond wele'r 15fed
cyfraniad at y sgwrs hon ar Maes-e:
http://www.maes-e.com/viewtopic.php?t=7950&postdays=0&postorder=asc&start=0&
sid=4557c81458c0b72c5a557696340851cb
"
Collais fy ngwyryfdod llymaid llyfn heddiw, a rhaid dweud nad profiad
amhleserus ydoedd. Llymaid llyfn ffrwythau'r goedwig o Siop Goffi Cefnfor yr
Iwerydd, Arced y Stryd Fawr, Caerdydd.
Ysblennydd.
"
Cofion gorau,
Huw
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Løvgreen
Anfonwyd/Sent: 07 Rhagfyr 2006 10:09
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Smoothie; Dairy Smoothie
Be, oes na'r fath beth â llaeth sydd DDIM yn llyfn?
----- Original Message -----
From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 06, 2006 5:01 PM
Subject: Re: Smoothie; Dairy Smoothie
> Llyfnffrwyth a Llyfnlaeth ??
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Elen Mererid Watt" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, December 06, 2006 4:37 PM
> Subject: Smoothie; Dairy Smoothie
>
>
> Help! Roeddwn isio cyfieithu 'smoothie' a dyma edrych yn yr archif a
> gweld Llyfnlaeth a Trwyth y Ffrwyth - gwych meddwn i Llyfnlaeth amdani
> OND och a gwae dyma ddod ar draws 'Dairy Smoothies' wedyn. Unrhyw
> awgrymiadau?!! Diolch.
>
> Mererid
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.432 / Virus Database: 268.15.9/573 - Release Date: 12/5/2006
> 16:07
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.409 / Virus Database: 268.15.14/578 - Release Date: 07/12/2006
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.409 / Virus Database: 268.15.14/578 - Release Date: 07/12/2006
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.
|