Helo,
Tybed fedrwch chi bobl garedig helpu? Dw i wrthi'n cyfieithu darn o waith
ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yma yn Wrecsam - categorïau ar gyfer yr
hyn sydd ar gael yn fwy penodol - ac mae'r uchod yn achosi peth trafferth i
mi. Ydych chi'n gwybod a oes term Cymraeg cydnabyddedig neu fedrwch chi
gynnig cyfieithiad? Dyma ddiffiniad oddi ar y we os yw hynny o unrhyw help:
In a piano reduction, all the instrumental parts are presented on just two
staves, like piano music.
Diolch i chi ymlaen llaw.
Lisa
|