UEchyd Da, falle?
----- Original Message -----
From: "Rhian Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 06, 2006 10:27 AM
Subject: Re: Health E U - Cylchlythyr
Diolch, Nia a Catrin, am eich sylwadau. Dwi'n tueddu i gytuno efo Catrin.
Dwinna hefyd yn gog (o Fethesda - fedrwch chi ddim mynd fawr pellach i'r
gogledd na hynny, heblaw am Ynys Môn!) ond dwi ddim yn gweld y byddai UEchyd
yn achosi problem - y chwarae ar eiriau sy'n bwysig yn hytrach na'r ynganu
yn y cyswllt yma. Mi drafodaf yr opsiynau efo yma i weld a oes barn o ran
diwyg ac ati.
Rhian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Nia Wyn Roberts
Sent: 01 November 2006 14:30
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Health E U - Cylchlythyr
Efallai fod 'UEchyd' yn gwneud synnwyr i Gymry de Cymru, ond i Gymry'r
gogledd, cofiwch ein bod yn ynganu 'u' yn wahanol i 'i'. Dwi'n credu y dylid
cadw at gyfieithiad llythrennol, sef 'Iechyd yn yr UE', oni bai fod gan
rywun deitl bachog amlwg.
Nia
|