> Yn waeth na hynny, ydy ‘hwyr’ yn cyfleu unrhyw amser ar ôl 12 canol dydd
> yn y Gymraeg? Gwaeth byth, i’r rheiny sy’n mynnu defnyddio ‘yp’ (am ‘y
> prynhawn’ debyg gen i) mae ‘prynhawn’ i arwyddo hyd yn oed tua 11.16 y
> nos, ydy e? Onid yw’n bryd cael cysondeb? Pam yr ysfa am beidio â
> defnyddio’r talfyriadau Lladin beth bynnag? Oes gan rywun sylwadau, os
> gwelwch chi’n dda?
Yn y dyddiau pan fyddwn i'n defnyddio ffurfiau Cymraeg (rhaid cyfaddef 'mod
i wedi mynd gyda'r llif yn y blynyddoedd diweddar, a dychwelyd at y
ffurfiau Lladin), roeddwn i'n gwahaniaethau fel a ganlyn:
0.01 a.m. tan 11.59 a.m. : y.b.
Hanner dydd : h.d.
12.01 p.m. tan 5.59 p.m. : y.p.
6.00 p.m. tan hanner nos : y.h.
Rhy gymhleth, o bosib.
Wyn
|