Crempog lysiau sydd yn Bruce hefyd, ond mi fedrwch chi gael sawl
gwahanol fath o 'spring roll' - cig, hwyaden, corgimychiaid a llysiau -
felly falle bod 'crempog lysiau' yn dipyn o risg, oni bai eich bod chi'n
gwybod i sicrwydd beth yw'r cynhwysion. Wedi dweud hynny, does gen i
ddim cynnig gwell, heblaw am rywbeth fel 'crempog tsieineaidd (wedi
ffrio)' neu rywbeth yr un mor anelwig!
Rhian
Canolfan Iechyd Cymru
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
Sent: 16 October 2006 13:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Blas ar y Gwanwyn ar fore o Hydref
Crempog lysiau sydd gan Fwrdd yr Iaith - efo treigliad.
Falle bod well cadw at y term felly, er y byddai ychwanegu 'wedi ffrio'
yn esbonio'n well efallai.
Catrin
----- Original Message -----
From: "Paul Thomas" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 16, 2006 9:57 AM
Subject: Blas ar y Gwanwyn ar fore o Hydref
Ymholiad eithaf anghyffredin i fore dydd Llun, ond a oes gan rywun
syniad
am sut i gyfieithu 'spring roll' yn Gymraeg. Yr unig gyfeiriad llwyddais
ddod o hyd iddo at yr amheuthun Tsieineaidd hwn oedd cynnig Geiriadur yr
Academi, sef 'crempog llysiau' ond i mi, gall hynny olygu unrhyw beth -
'vegetable crepe' er enghraifft. Hefyd mae crempog yn rhywbeth meddal
fel
arfer, ond fel mae pawb yn gwybod, mae 'spring roll' yn grimp gyda blas
ac
ansawdd hollol wahanol. Felly unrhyw awgrymiadau, unrhyw fflachiau o
ysbrydoliaeth ar ddechrau wythnos newydd? Neu ddylwn i dderbyn 'crempog
llysiau' er gwaethaf ei amwysedd?
Diolch ymlaen llaw
Paul
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.408 / Virus Database: 268.13.4/476 - Release Date:
10/14/2006
|