Mae ymadroddion "rhyw-benodol" yn un o'r seiliau sydd gan Bwyllgor Deddfau
y Cynulliad dros wrthod drafft o is-ddeddfwriaeth, ond mae'r Pwyllgor yn
caniatáu i'r Gymraeg lynu at ddilyn cenedl yr enw, felly hyd yn oed os
yw’r Saesneg yn dweud ‘if a parent sends his or her child’, fe fydd ir is-
ddeddfwriaeth Gymraeg yn dweud 'os bydd rhiant yn anfon ei blentyn'.
Ond dwy ddim yn credu chwaith bod defnyddio "eu" ar ôl enw unigol yn
anghyffredin, nac yn deillio o ymyrraeth y Saesneg bob tro....
Welsoch chi gêm Cymru a'r Weriniaeth Siec pa ddydd. Gwnaeth Cymru'n dda.
Roedd hi'n haeddu pwynt yn fy marn i.
Na, na, na. "Roedden nhw'n haeddu pwynt" sy'n naturiol fan 'na.
Mae pawb yn deall hynny, ond ydyn nhw (sic)?
|