'sgrifennodd Rhys Jones:
> Cymru ar y We yw'r unig le sy'n defnyddio 'Cyflenwad' yn y cyd-destun
> hwn, am wn i: 'Ffrwd/Ffrydiau RSS' ddefnyddir gan amlaf (Morfablog a
> sawl lle arall - 700+ o enghreifftiau ar Google).
Dwi'n anghytuno gyda 'ffrwd' am fod hynny yn cael ei ddefnyddio
ar gyfer technoleg 'streaming' sydd yn beth hollol wahanol.
Porthiant dwi wedi ddefnyddio ers blynyddoedd ar sail defnydd
gwreiddiol y BBC. Mae'n esbonio'r syniad fod RSS yn cael ei
ddefnyddio i 'fwydo' gwybodaeth i'r defnyddiwr yn hytrach na
fod y defnyddiwr yn mynd at dudalen (gwe) o hyd.
Wrth gwrs does gan y BBC ddim cysondeb chwaith a mae nhw'n
defnyddio ffrwd, allborth, allbwn, phorthiant a sianel - yn aml
o fewn yr un dudalen!
Dwi'n credu fod allborth yn gynnig da hefyd, er fod porthiant
yn hynach.
|