O ran "party poppers", yr unig rai 'dw i'n eu hadnabod, 'dyw Bruce ddim yn
gweld pam na ddylech chi eu galw nhw'n "bopwyr parti", ond 'rwy'n ffansio
rhybeth mwy dychmygys - rhaeadrau rhubanau, ffrwydrau'r enfys, ffynhonnau
papur, bomiau lliwiau neu unrhyw gyfuniad ohonynt!
Ann
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 19, 2006 4:54 PM
Subject: Drwgdaclau fflamychol
Reit, gyfeillion hynaws, dyma her ddeallusol o'r iawn ryw yn hwyr ar
brynhawn Mawrth. Mae gofyn i mi ganfod cyfieithiadau ar gyfer y canlynol:
cracker snaps
novelty matches
party poppers
serpents
throw-downs
Mae 'caps' ar y rhestr hefyd, ond mae GyrA yn rhoi 'caps' am y rheiny!
Parthed y gweddill, a fydd yn rhaid i mi roi'r ffidil yn y to a defnyddio'r
ymadroddion Saesneg mewn dyfynodau, ynteu a all hyn o neges ennyn ton o
greadigrwydd llachar (onid ffrwydrol) o'ch plith?
Mewn disgwylgarwch eiddgar,
Hwyl,
Wyn
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.5/450 - Release Date: 18/09/2006
|