Roedd gan fy mhlant i gwningen ond gwryw oedd hi/e!! Roedd hi'n gwningen
bert iawn ond ...
Nia
> ----------
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Berwyn
> Jones[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 08 September 2006 14:08
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Pa ryw?
>
> Er 'mod i'n cytuno â ti, Geraint, mai 'ei ddesg' sy'n teimlo'n gywir gan
> fod 'plentyn' yn air gwrywaidd, beth am y gair 'cath'?
>
> Bydd fy chwaer-yng-nghyfraith, sy'n berchen* cath, yn galw'i chath yn 'hi'
> ("am mai 'y gath' rwyt ti'n ei ddweud") er ei bod yn amlwg i bawb mai
> cwrcyn o'r cwrcod yw e! Ai'r teimlad nad yw 'cwrcyn' yn air mor 'neis' â
> 'cath' sydd wrth wraidd hyn? Yr un yw'r sefyllfa yn Saesneg hefyd - 'cat'
> fel rheol, ond 'tomcat' os bydd angen pwysleisio'i wrywdod (ei
> gwrywdod?!!).
>
> (* Mae gan gi berchennog; staff sydd gan gath.)
>
> A oes achos arall o alw anifail wrth enw'r fenyw?
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 08, 2006 1:25 PM
> Subject: Re: Pa ryw?
>
> Be di'r teimlad yn gyffredinol yn y cylch felly am ddefnyddio'r "ei"
> gwrywaidd ar ol gair gwrywaidd fel plentyn, hyd yn oed os yw'r Saesneg yn
> dweud rhywbeth fel (er enghraifft) "the child should sit at his or her
> desk".
>
> "Dylai'r plentyn eistedd wrth ei ddesg" ydi beth hoffwn i ysgrifennu
> yn naturiol. Ond mae'r "his or her" yn pwyso rhywun i sgwennu "ei (d)desg"
> neu "ei ddesg/ei desg".
>
> Y cywirdeb gwleidyddol yma sydd hefyd yn gorfodi rhyw erchylleiriau
> fel "cyfarwyddydd" ar yr iaith !
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 08, 2006 12:38 PM
> Subject: Re: Pa ryw?
>
> Mae'n debyg bod yr arfer o ddefnyddio'r ffurf luosog i
> gyfeirio at eitem neu berson unigol yn hen un yn Saesneg gan fod
> enghreifftiau ohono i'w cael yng ngwaith rhyw Mr W Shakespeare (na wnaeth
> e, gyda llaw, erioed sillafu ei enw fel 'na!).
>
> Nid bod hynny'n rheswm yn y byd dros i'r Gymraeg ddilyn
> arfer y Saesneg!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: GLENYS ROBERTS
> <mailto:[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 08, 2006 11:28 AM
> Subject: Re: Pa ryw?
>
> Mae'n well gen i hynny, am wn i, na'r arfer diweddar
> o roi 'their' bob tro mewn ymadroddion fel hyn. Ai dim ond fi sy'n casáu
> brawddegau fel rhai BT - 'the caller withheld their number'? Mi fydda i'n
> teimlo fel gweiddi lawr y ffôn, 'How can the caller withold their number?'
> Pwysau o blaid bod yn PC wedi mynd yn rhemp!
> O diar, mae'r plant yn deud 'mod i'n mynd yn fwy
> stropi yn fy henaint!
> Hwyl!
> Glenys
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" < [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> To: < [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> Sent: Friday, September 08, 2006 10:28 AM
> Subject: Re: Pa ryw?
>
>
> Sorri, "i'w amgylchiadau"!
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" < [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> To: < [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> Sent: Friday, September 08, 2006 10:21 AM
> Subject: Pa ryw?
>
>
> Yn sgil y sylwadau yn "Sawl Un?", mae'n werth dweud
> ei bod hi'n hawdd iawn
> llithro ynghylch rhyw ('sex' nid 'some') unigolyn
> hefyd, wrth gyfieithu o'r
> Gymraeg.
>
> Yn ddiweddar, cyfieithiais i adroddiad (dychmygol)
> ynghylch damwain mewn
> cartref hen bobl. "Atik" oedd enw'r gofalydd, a
> chymerais mai gwraig
> ydoedd, nes i un o'r cwestiynau ar y diwedd ddangos
> mai dyn oedd.
>
> Sylwais yn ddiweddar bod sylw Kate Roberts ar "Te yn
> y Grug" wedi'i
> gyfieithu fel hyn,""able to enter the dark recesses
> of a child's mind and
> show a child's reaction to his circumstances". Yr
> oedd y cyfieithiad ei hun
> yn ddi-fai, ond mae'n amlwg bod rhywun wedi gweld
> rhywbeth fel "ymateb
> plentyn i ei amgylchiadau" heb gofio/wybod bod y
> plentyn yn y novel yn
> ferch.
>
> Ann
>
> ----- Original Message -----
> From: "SIAN ROBERTS" < [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> To: < [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> Sent: Friday, September 08, 2006 9:54 AM
> Subject: Re: Sawl un?
>
>
> Bu bron i mi wneud yr un camgymeriad o chwith -
> cyfieithu rhywbeth fel "Sailing Ship Festival" a
> dweud
> "Gwyl Llongau Hwyliau" tan i mi sylwi reit ar y
> diwedd
> mai dim ond un llong hwyliau oedd yno.
>
> Bai'r Saesneg!
>
> Hwyl
> Sian
> --- GLENYS ROBERTS < [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>
> > I ddilyn pwynt a gododd Ann ar gychwyn y
> drafodaeth
> > am ffermio pysgod, ro'n 'adra' yn Llangefni dros
> > w^yl y banc, ac roedd 'na arwyddion ar yr A55 yn
> > cyfeirio pobl at 'Sioe Beic Ynys Môn', sef
> 'Anglesey
> > Bike Show' mae'n debyg. Ro'n i'n teimlo fel mynd
> > allan ac ychwanegu 'Be', 'mond un beic?' at yr
> > arwydd!
> > Glenys
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 -
> Release Date: 07/09/2006
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 -
> Release Date: 07/09/2006
>
>
>
> _____
>
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 -
> Release Date: 07/09/2006
>
>
>
> _____
>
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 - Release Date:
> 07/09/2006
>
>
>
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|