Llygoden?
Mae'r gwrthwyneb yn wir am gi.
Fi'n cofio mynd yn grac am fod menyw drws nesa yn
mynnu cyfeirio at ein hast ni fel "fe".
"Ddown ni i arfer ag e, siwr o fod" medde hi'n amheus
pan gawson ni hi.
--- Berwyn Jones <[log in to unmask]> wrote:
> Er 'mod i'n cytuno â ti, Geraint, mai 'ei ddesg'
> sy'n teimlo'n gywir gan fod 'plentyn' yn air
> gwrywaidd, beth am y gair 'cath'?
>
> Bydd fy chwaer-yng-nghyfraith, sy'n berchen* cath,
> yn galw'i chath yn 'hi' ("am mai 'y gath' rwyt ti'n
> ei ddweud") er ei bod yn amlwg i bawb mai cwrcyn o'r
> cwrcod yw e! Ai'r teimlad nad yw 'cwrcyn' yn air
> mor 'neis' â 'cath' sydd wrth wraidd hyn? Yr un yw'r
> sefyllfa yn Saesneg hefyd - 'cat' fel rheol, ond
> 'tomcat' os bydd angen pwysleisio'i wrywdod (ei
> gwrywdod?!!).
>
> (* Mae gan gi berchennog; staff sydd gan gath.)
>
> A oes achos arall o alw anifail wrth enw'r fenyw?
>
> Berwyn
> ----- Original Message -----
> From: Geraint Løvgreen
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, September 08, 2006 1:25 PM
> Subject: Re: Pa ryw?
>
>
> Be di'r teimlad yn gyffredinol yn y cylch felly am
> ddefnyddio'r "ei" gwrywaidd ar ol gair gwrywaidd fel
> plentyn, hyd yn oed os yw'r Saesneg yn dweud
> rhywbeth fel (er enghraifft) "the child should sit
> at his or her desk".
>
> "Dylai'r plentyn eistedd wrth ei ddesg" ydi beth
> hoffwn i ysgrifennu yn naturiol. Ond mae'r "his or
> her" yn pwyso rhywun i sgwennu "ei (d)desg" neu "ei
> ddesg/ei desg".
>
> Y cywirdeb gwleidyddol yma sydd hefyd yn gorfodi
> rhyw erchylleiriau fel "cyfarwyddydd" ar yr iaith !
>
> Geraint
> ----- Original Message -----
> From: Berwyn Jones
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, September 08, 2006 12:38 PM
> Subject: Re: Pa ryw?
>
>
> Mae'n debyg bod yr arfer o ddefnyddio'r ffurf
> luosog i gyfeirio at eitem neu berson unigol yn hen
> un yn Saesneg gan fod enghreifftiau ohono i'w cael
> yng ngwaith rhyw Mr W Shakespeare (na wnaeth e, gyda
> llaw, erioed sillafu ei enw fel 'na!).
>
> Nid bod hynny'n rheswm yn y byd dros i'r Gymraeg
> ddilyn arfer y Saesneg!
>
> Berwyn
> ----- Original Message -----
> From: GLENYS ROBERTS
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, September 08, 2006 11:28 AM
> Subject: Re: Pa ryw?
>
>
> Mae'n well gen i hynny, am wn i, na'r arfer
> diweddar o roi 'their' bob tro mewn ymadroddion fel
> hyn. Ai dim ond fi sy'n casáu brawddegau fel rhai
> BT - 'the caller withheld their number'? Mi fydda
> i'n teimlo fel gweiddi lawr y ffôn, 'How can the
> caller withold their number?' Pwysau o blaid bod yn
> PC wedi mynd yn rhemp!
> O diar, mae'r plant yn deud 'mod i'n mynd yn
> fwy stropi yn fy henaint!
> Hwyl!
> Glenys
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 08, 2006 10:28 AM
> Subject: Re: Pa ryw?
>
>
> Sorri, "i'w amgylchiadau"!
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 08, 2006 10:21 AM
> Subject: Pa ryw?
>
>
> Yn sgil y sylwadau yn "Sawl Un?", mae'n werth
> dweud ei bod hi'n hawdd iawn
> llithro ynghylch rhyw ('sex' nid 'some')
> unigolyn hefyd, wrth gyfieithu o'r
> Gymraeg.
>
> Yn ddiweddar, cyfieithiais i adroddiad
> (dychmygol) ynghylch damwain mewn
> cartref hen bobl. "Atik" oedd enw'r gofalydd,
> a chymerais mai gwraig
> ydoedd, nes i un o'r cwestiynau ar y diwedd
> ddangos mai dyn oedd.
>
> Sylwais yn ddiweddar bod sylw Kate Roberts ar
> "Te yn y Grug" wedi'i
> gyfieithu fel hyn,""able to enter the dark
> recesses of a child's mind and
> show a child's reaction to his circumstances".
> Yr oedd y cyfieithiad ei hun
> yn ddi-fai, ond mae'n amlwg bod rhywun wedi
> gweld rhywbeth fel "ymateb
> plentyn i ei amgylchiadau" heb gofio/wybod bod
> y plentyn yn y novel yn
> ferch.
>
> Ann
>
> ----- Original Message -----
> From: "SIAN ROBERTS"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 08, 2006 9:54 AM
> Subject: Re: Sawl un?
>
>
> Bu bron i mi wneud yr un camgymeriad o chwith
> -
> cyfieithu rhywbeth fel "Sailing Ship Festival"
> a dweud
> "Gwyl Llongau Hwyliau" tan i mi sylwi reit ar
> y diwedd
> mai dim ond un llong hwyliau oedd yno.
>
> Bai'r Saesneg!
>
> Hwyl
> Sian
> --- GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]>
> wrote:
>
> > I ddilyn pwynt a gododd Ann ar gychwyn y
> drafodaeth
> > am ffermio pysgod, ro'n 'adra' yn Llangefni
> dros
> > w^yl y banc, ac roedd 'na arwyddion ar yr
> A55 yn
> > cyfeirio pobl at 'Sioe Beic Ynys Môn', sef
> 'Anglesey
> > Bike Show' mae'n debyg. Ro'n i'n teimlo fel
> mynd
> > allan ac ychwanegu 'Be', 'mond un beic?' at
> yr
> > arwydd!
> > Glenys
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database:
> 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database:
> 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006
>
>
>
>
--------------------------------------------------------------------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database:
> 268.12.2/441 - Release Date: 07/09/2006
>
>
>
>
------------------------------------------------------------------------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.405 / Virus Database: 268.12.2/441 -
> Release Date: 07/09/2006
>
|