Cefais ymholiad yn ddiweddar am y gair "ffrwchnedd" (sef y gair Cymraeg
am fanana yn ôl rhai).
Roeddwn i wastad wedi cymryd mai un o eiriau gwneud William Owen Pughe
oedd e, ond roeddwn i'n anghywir, a does dim tystiolaeth ohono mewn
testunau Cymraeg tan yn lled ddiweddar. Mae rhai yn dweud mai Dewi Pws
fathodd y gair, ond dydw i ddim wedi cael cadarnhad o hyn ychwaith. Mae
ychydig enghreifftiau ar y we (rhai tynnu coes gan mwyaf, diolch byth).
Holais ein cyfeillion ar staff Geiriadur Prifysgo Cymru, ond doedd dim
cofnod o'r gair ar un o'u slipiau nhw ychwaith. "Beth am holi ar TERMAU"
oedd yr awgrym ysbrydoledig yno, felly dyma fi'n gwneud.
Oes unrhyw un ohonoch yn gwybod hanes y gair hwn, neu pryd a ble y
gwelsoch chi'r gair gyntaf? Oes gwir yn y si mai Dewi Pws fathodd y gair
fel joc yn y man cyntaf?
Diolch am bob help,
Delyth
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|