Gweld bod y rhain yn rhan o restr y DTI yn nodi pa dân gwyllt y mae'n
gyfreithlon i blant dan 16 oed eu prynu.
Mae cyfieithwyr Cyngor Sir Abertawe wedi chwarae'n
saff(http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=5497):-
'*Unrhyw dân gwyllt heblaw cap, cracker snap, novelty matches, party
poppers, seirff a throw downs.'
Be' am:-
caps - caps
cracker snaps - clecwyr cracyrs / rhubanau clecio (rhain sy' tu fewn i
gracyrs)
novelty matches - matsys cogio / ffug
party poppers - popwyr parti / clecwyr parti
serpents - seirff?!
throw downs - clecwyr llawr (ddim yn siwr be' yw y rhain)
Non
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 19, 2006 4:54 PM
Subject: Drwgdaclau fflamychol
Reit, gyfeillion hynaws, dyma her ddeallusol o'r iawn ryw yn hwyr ar
brynhawn Mawrth. Mae gofyn i mi ganfod cyfieithiadau ar gyfer y canlynol:
cracker snaps
novelty matches
party poppers
serpents
throw-downs
Mae 'caps' ar y rhestr hefyd, ond mae GyrA yn rhoi 'caps' am y rheiny!
Parthed y gweddill, a fydd yn rhaid i mi roi'r ffidil yn y to a defnyddio'r
ymadroddion Saesneg mewn dyfynodau, ynteu a all hyn o neges ennyn ton o
greadigrwydd llachar (onid ffrwydrol) o'ch plith?
Mewn disgwylgarwch eiddgar,
Hwyl,
Wyn
|