Mae 'arfer' yn enw rhif (count noun) ac 'ymarfer' yn yr ystyr o
'practice' ( = gweithredu fel gweithiwr proffesiynol etc.) yn enw
cynnull (mass noun).
Y gwahaniaeth yw bod modd cyfrif enwau rhif a ffurfio lluosog ohonynt (3
arfer gwahanol, arferion da). Nid oes modd gwneud hynny gydag enwau
cynnull (ystyr arall sydd i 'ymarferion' a'r ffurf unigol yw
'ymarferiad' - 3 ymarferiad gwahanol, ymarferion da - 'exercise' yn
Saesneg).
Meddyliwch am y gwahaniaeth rhwng 'torth' a 'bara' (3 torth ond nid 3
bara).
Am ragor o wybodaeth gw. adran 4.23 Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas.
Mae Eirian yn iawn felly wrth awgrymu fod 'ymarfer' yn gywir wrth sôn am
weithio mewn proffesiwn.
Gydag ymadroddion fel 'good practice' mae weithiau'n anodd gwybod ai son
am enghraifft unigol o 'practice' sydd yma (mae hwn yn arfer da) neu ar
gyfer rhywbeth mwy cyffredinol (e.e. ymarfer da mewn meddygaeth).
Gydag 'in practice' fyddwn i ddim yn defnyddio'r un o'r ddau air gan fod
y gystrawen yn wahanol yn y Gymraeg. Byddai dweud rhywbeth fel 'yn
ymarferol' yn well.
Delyth
Ysgrifennodd Eirian Youngman:
>Beth yw'r drefn o safbwynt defnyddio 'arfer' neu 'ymarfer' ar
>gyfer 'practice'? Mae'r enghreifftiau ar Term Cymru yn amrywio. Ai
>defnyddio 'ymarfer' ar gyfer gweithio mewn proffesiwn, ond 'arfer' ar gyfer
>rhywbeth mwy cyffredinol, e.e. 'how does it work in practice'?
>
>Diolch
>
>Eirian
>
>
>
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|