> Application Programmers Interface (API), unrhywun?
Wedi ystyried, dwi'n cytuno gyda Neil mai nid 'rhaglen' yw
Application yn yr ystyr yma. I ddweud y gwir mae'n haws
deall API wrth ei ddiffiniad cywir "Application Program
Interface".
Hynny yw, pwrpas API yw caniatau Application i siarad gyda
Program drwy gyfarwyddiadau safonol.
Mae yna ystyr pendant i Application yn y byd cyfrifiadurol ac
allwch chi ddim dianc o hynny. Mae'r "Application Software"
(e.e. Word) yn gwneud defnydd o'r "System Software" (e.e. Windows
XP) drwy alwadau i'r API (a mae nifer ohonynt).
Er enghraifft, mae yna safonau ar gyfer graffeg fel fod unrhyw
"Application" yn gallu siarad a'r caledwedd graffeg drwy API safonol.
Mae hyn yn golygu fod pob cwmni yn gallu cystadlu gyda'i gilydd gan
sicrhau fod pob caledwedd graffeg yn cydweithio a phob meddalwedd.
Mae'n anffodus fod 'Rhaglen' wedi (mwy neu lai) ei safoni ar gyfer
"application". Efallai ei fod yn 'haws' ond dyw e ddim yn gywir a mae
cyfieithu llac yn dueddol o codi problemau fel hyn yn y pen draw.
|