Ie, er enghraifft mae Draig Technology Ltd, sef cwmni'r To-bach, wedi'u
cofrestru dan yr enw hwnnw ond yn galw'u hunain yn Draig Technology Cyf. yn
Gymraeg a Draig Technology Ltd yn Saesneg.
Dydi'r 'Ltd' ddim yn rhan o'r enw swyddogol, disgrifiad ydi o.
Dwi'n digwydd gwybod am hyn achos wnes i'u holi nhw wsnos dwytha.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 07, 2006 10:22 PM
Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
>> Mae'r geiriad isod o safle Ty'r Cwmniau yn awgrymu bod "Cyf" ayb yn rhan
>> o'r
>> enw:
>> "Er enghraifft, rhaid i bob enw cwmni ddiweddu yn y geiriau 'Cyfyngedig',
>> 'Anghyfyngedig', 'Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus', neu eu talfyriadau neu'r
>> geiriau Saesneg cyfatebol"
>
> Mae e'n rhan o'r enw ydi, am ei fod yn anghenrheidiol nodi y math
> o gwmni fel arfer, ond pan mae enw newydd yn cael ei ystyried,
> mae Ltd/Limited/Cyf/Cyfyngedig/PLC yn cael ei anwybyddu.
>
> Os oes 'Esiampl Limited' yn bodoli, all neb arall gofrestru
> 'Esiampl Cyf' na unrhyw ffurf tebyg fel 'Cwmni Esiampl Cyf'
>
> Mewn ffordd, mae hyn yn golygu fod hi'n bosib defnyddio'r
> fersiynau arall heb boeni eich bod yn defnyddio "enw cwmni
> arall", er mai dim ond un fersiwn o'r enw sydd ar y rhestr
> swyddogol.
|