Helo John,
Diolch am ddeffro ychydig ar y cylch - pawb yn y 'Steddfod wythnos yma mae'n rhaid!
Tybed a yw'r ymadrodd hwn yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at BOBL drawsrywiol a/neu trawsryweddol(?) - hynny yw, transsexual and/or transgender people, gan amlygu'r elfen mai 'pobl' ydyn nhw. Fe welwn ni bethau tebyg yn yr ymadrodd 'pobl anabl' / 'disabled people' yn hytrach na rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn ddilornus erbyn hyn fel 'the disabled', ‘the blind’, transsexuals ac ati.
Mae'r erthygl yma ar Wicipedia fel petai'n diffinio 'transgender' fel ymadrodd mwy 'cynhwysfawr' na transsexual:
http://en.wikipedia.org/wiki/Transgender
Transgender people may or may not have had medical sex reassignment therapy, also called sex reassignment surgery, and may or may not have any interest in such a procedure. In other words, not all transgender people are transsexual, although, by definition, all transsexual people are transgender. (See below for criticism.)
Mae gwefan Stonewall, ar y llaw arall, yn gweld 'Trawsryweddol' fel gair mwy modern (a mwy derbyniol) na 'trawsrywiol'
http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/welsh/gwyliwch_allan/adnoddau_ar_gyfer_newyddiadurydd/geiriadur_defnydd_derbyniol/default.asp
Trawsryweddol: term cyffredinol am bobl drawsrywiol neu sy'n trawswisgo. Yn fwy arbennig gall gyfeirio at rywun sy'n profi 'anesmwythder rhyw' rhwng rhyw eu corff a syniad cymdeithas o rôl rhyw. Gall hefyd gyfeirio at rywun sydd yn 'chwarae' yn ymwybodol gydag arferion rôl rhyw. Gall person trawsryweddol ddewis newid eu cyrff gyda therapi hormonau neu lawfeddygaeth gosmetig neu beidio.
Trawsrywiol: term hŷn, mwy meddygol am berson sydd yn teimlo ysfa barhaol i fyw eu bywydau fel aelod o'r rhyw arall.
Petai'n rhaid i mi ddewis, a hynny gan gofio'r arfer canmoladwy o ddefnyddio 'pobl' mewn ymadroddion fel 'pobl ddall', 'pobl anabl' etc. y dyddiau hyn, fe fyddwn i'n cynnig 'pobl drawsryweddol', gan fentro bod 'trawryweddol' yn llai tramgwyddus (ac yn fwy cynhwysfawr) na 'trawsrywiol'.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Delyth Prys
Sent: 01 June 2006 08:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Trans-people
Ysgrifennodd Puw, John:
> Roeddwn yn meddwl mai camgymeriad oedd hwn nes i mi edrych ar Gwgl a
> gweld sawl cyfeiriad at y term. Byddai unrhyw gymorth yn dderbyniol
> dros ben
>
Des i ar draws y term yma ddoe hefyd am y tro cyntaf. Pobl drawsrywiol oedd dan sylw yn y cyd-destun hwnnw - fedra i ddim bod yn siwr ma'i'r un un oedd cyd-destun John - dwed wrthon ni os yw'n gwneud synnwyr ai peidio.
Delyth
>
>
> Diolch
>
>
>
> John
>
>
>
> John Puw
>
> Uned Gyfieithu/Translation Unit
> Ffôn/Tel: 01492 510935
> Mewnol/Internal: 6135
> E-bost/E-mail: [log in to unmask]
>
>
>
>
>
>
> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>
> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.
>
> Heddlu Gogledd Cymru
>
> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
>
> This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for you co-operation.
>
> North Wales Police
>
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance Office. www.bangor.ac.uk
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.8.0/353 - Release Date: 31/05/2006
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.8.0/353 - Release Date: 31/05/2006
|