(Gan ymddiheuro am y diffyg acenion crymion)
Y mae gwraig o Fon wedi rhoi gwybod imi am blanhigyn a dyf ar fagwyrydd
yno, a elwir "y gynfas las". Y mae'r blodau'n las eu lliw, i'w gweld ar yr
adeg yma o'r flwyddyn, ac yn gymaint eu nifer ag i lwyr orchuddio'r dail.
Nid oes arno angen fawr ddim pridd, ac ymleda'n eang ac yn gyflym. Y mae
math cyffelyb sydd a blodau gwynion, a elwir "y gynfas wen".
Dywedwyd wrthyf nad yw'r blodyn ar ffurf cloch, felly hwyrach nad
Campanulata mohono. A yw unrhyw un yn gwybod am enwau Cymraeg eraill arno,
neu'r enw Lladin?
|