Ga' i fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i gyfeirio at y cofnod cyntaf ar gyfer 'Celebrate' yng Ngeiriadur yr Academi, sef ei gyd-destun eglwysig. Mae Dr Enid P. Roberts yn flin iawn pan fydd hi'n clywed pobl yn sôn am 'ddathlu'r Cymun'. 'Gweinyddu'r Cymun' sy'n gywir meddai hi, yn union fel y dywed GyrA.
O ran neges Siân, rydw innau'n gweld 'dathlu'r arfordir' yn chwithig, ond rydw i'n barod i gael fy nghywiro os ydi rhywun yn dymuno dadlau'n gryf o'i blaid.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 22 May 2006 12:28
To: [log in to unmask]
Subject: celebrate
Mae 'na hysbyseb ar y teledu ar hyn o bryd am gyfres i "ddathlu'r arfordir".
Mae hyn yn swnio braidd yn chwithig i mi.
Fe wnes i waith i gwsmer ym myd y celfyddydau yn ddiweddar a defnyddio rhywbeth fel "clodfori" neu "mawrygu" i gyfieithu "celebrate" mewn cyd-destun tebyg ond gofynnwyd i mi ei newid i "dathlu".
Ydi hyn yn dod yn ddefnydd derbyniol o'r gair?
Yn ôl Geiriadur yr Academi "celebrate (= commemorate): dathlu".
Hwyl
Siân
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.6.1/344 - Release Date: 19/05/2006
|