Mae 'na hysbyseb ar y teledu ar hyn o bryd am gyfres i "ddathlu'r arfordir".
Mae hyn yn swnio braidd yn chwithig i mi.
Fe wnes i waith i gwsmer ym myd y celfyddydau yn ddiweddar a defnyddio rhywbeth fel "clodfori" neu
"mawrygu" i gyfieithu "celebrate" mewn cyd-destun tebyg ond gofynnwyd i mi ei newid i "dathlu".
Ydi hyn yn dod yn ddefnydd derbyniol o'r gair?
Yn ôl Geiriadur yr Academi "celebrate (= commemorate): dathlu".
Hwyl
Siân
|