Ysgrifennodd Ann Wiliam:
>Mae Cysgeir yn rhoi "carennydd" ac mae'n werth chwilio Gwgl e.e.
>www.baaf.org.uk/info/firstq/fostering_cym.shtml sy'n rhoi'r diffiniad
>canlynol:
>
>Maethu "teulu a ffrindiau" neu faethu "carennydd"- pan fydd plant sy'n
>derbyn gofal gan awdurdod lleol yn cael eu gofalu amdanynt gan bobl y maen
>nhw eisoes yn eu hadnabod. Gall hyn fod yn fuddiol iawn i'r plentyn, ac
>fe'i gelwir yn faethu "teulu a ffrindiau" neu faethu "carennydd". Os nad
>yw'r awdurdod lleol yn gofalu amdano, gall plant fyw gyda'u modrybedd,
>ewyrth, brodyr, chwiorydd neu neiniau a theidiau heb gysylltiad o'r tu
>allan.
>Ann
>
>
>
Holais Wasanaethau Cymdeithasol Gwynedd am hyn a chael yr ateb eu bod yn
defnyddio 'teulu' neu 'teulu estynedig' yn naturiol yn y Gymraeg yn y
cyd-destun hwn.
Delyth
|