Yn ôl Y Golygiadur, "mae enw mewn cyfosodiad sy'n dynodi swydd neu berthynas
... yn treiglo'n feddal ar o^l enw priod. Darlllenais mor bell a^ hynny a
meddwl nad oedd "bala, dirion deg" yn dod yn y categori yna, ond o droi at
ddiwedd yr adran mae'n dweud "Hefyd mae enwau eraill mewn cyfosodiad yn
treiglo'n feddal er nad ydynt yn deitlau nac yn enwau priod -Yr oedd y
dosbarth cyfan, giwed anhapus, yn eistedd yn dawel".
Gyda llaw, byddwn i'n ymuno a^ Muiris i ganmol y Golygiadur, ond nid yw'n
hollol ddi-fai chwaith.
Ann
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 27, 2006 9:37 AM
Subject: Re: Safer Swansea
Ie, yn hollol. Ac mae'n arferiad sy'n marw'n raddol - cf Dafydd Ddu Eryri /
Dafydd Du (Radio Cymru)
----- Original Message -----
From: "Gorwel Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 27, 2006 9:02 AM
Subject: Re: Safer Swansea
Tybed a yw Bala'n 'dirion deg' yn yr un modd ag y byddwn yn treiglo
ansoddair weithiau ar ôl enw personol e.e. Dylan Goch (cyfaill plentyndod
ers talwm)
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
Sent: 26 April 2006 13:14
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Safer Swansea
Yn ôl 'Elfennau Gramadeg' SJW, t. 27 benywaidd yw "enwau trefi a dinasoedd".
Mae trafodaeth helaethaf ar dreiglo (a pheidio) ar ôl enwau lleoedd yn
'Treigladau' TJM, t. 119-121 - a'r awgrym (rwy'n meddwl!) yw bod yr
ansoddair yn tueddi i dreiglo ar ôl enw lle. Gwrywaidd yw'r gair 'bala' ond
canu'n iach 'i'r Bala dirion deg' mae'r hen gân.
Cwestiwn diddorol wedyn yw a oes dadl dros beidio â threiglo ar ôl Abertawe
os Abertawe fel lle, yn hytrach na dinas, yw'r cysyniad. Os felly, tybed a
allwn gyfiawnhau dweud 'cenhinen mawr' drwy honni taw am gysyniad y cenhinen
fel llysieuyn neu blanhigyn yr ydym yn sôn?!
----- Original Message -----
From: "GLENYS ROBERTS" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 26, 2006 10:14 AM
Subject: Re: Safer Swansea
Ie, dw i'n gweld y rhesymeg. Fel mae pobl Glynceiriog yn byw yn 'y Glyn'
(gwr.) ac fel roedd trigolion hy^n Morgannwg yn sôn am fynd 'i'r Bont'
(ben.) (cyn i bawb ddechrau galw'r lle yn 'Ponty').
O wel, rhwng dy gynnig di David a chynnig Fiona, mae digon o gyfiawnhad dros
beidio â cholli cwsg dros ddefnyddio'r logo! Diolch G
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 26, 2006 9:25 AM
Subject: Re: Safer Swansea
Na na, wrth gwrs. Ond dyw'r briflythyren a'r enw afon ddim yn golygu bod
'Abertawe' yn wahanol o ran ei genedl i 'aber'. Am wn i...
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of GLENYS ROBERTS
Sent: 26 April 2006 09:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Safer Swansea
Mmm ... dw i ddim yn meddwl rhywsut mai meddwl am aber mwy diogel maen nhw
efo'r logo yna.
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 26, 2006 9:13 AM
Subject: Re: Safer Swansea
Mae'n rhaid cyfadde nad oeddwn i'n llwyr ddeall pam y byddai dyn yn cymryd
mai benywaidd yw Abertawe - neu enw unrhyw ddinas arall o ran hynny.
Gallwch ddweud mai "dinas yw Abertawe" i'ch arwain i gredu ei bod yn
fenywaidd, ond gallech chi hefyd ddweud mai "twll yw Abertawe": a fyddai
hynny'n eich arwain i feddwl amdano fel pe bai'n wrywaidd?!
Y peth pwysica, rwy'n credu, yw mai gwrywaidd yw cenedl yr enw 'aber', felly
Aber Mwy Diogel fyddai 'Safer Aber' pe bai ymgyrch gyfatebol ar gael yn y
pentre yn ymyl Caerffili.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Fiona Wells
Sent: 26 April 2006 08:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Safer Swansea
Mae'r logo yma'n bodoli ers cyn i minne ddod i Abertawe, ond o'r hyn a geir
yn rhai o gyhoeddiadau eraill y Cyngor, rwy'n credu mai'r cysyniad yw
Abertawe fel lle, yn hytrach na dinas, a dyna pam na cheir treiglad Diolch
Fiona
>From: GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]>
>Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
>To: [log in to unmask]
>Subject: Safer Swansea
>Date: Tue, 25 Apr 2006 16:47:21 +0100
>
>'Abertawe Mwy Diogel' meddai'r logo, a dyna fydd yn rhaid imi ei
>ddefnyddio felly. Ond gan mai dinas (eb) yw Abertawe, onid 'Abertawe
>Fwy Diogel' fyddai'n gywir? 'Y ddiweddar Fusus Jones', yntê? Neu a
>oes yna ryw gysyniad arall y tu ôl i Abertawe?
>
>Ac mae 'mhen i'n dechrau nogio erbyn hyn, ar ôl bod yn yr W^yl Ban
>Geltaidd drwy'r penwythnos ...
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.5.0/325 - Release Date: 26/04/06
|