Mae sylw Siān yn cadarnhau rhyw deimlad sy gen i fod pobl y De'n debycach o
ddweud 'chwarae' na 'canu'. Chlywais i erioed mo 'nhad, deheuwr a fu'n athro
cerddoriaeth yn ogystal ag yn athro Cymraeg, yn dweud 'canu' yn y cyd-destun
hwn. Yn sicr, chwarae'r piano wnes i, heb lwyddo erioed i'w gael i ganu!
'Canu' sydd i'w weld ym mhob rhestr o dermau cerddoriaeth rwyf wedi'i gweld,
gan gynnwys y Termiadur newydd sbon. Ond ydy hynny'n enghraifft o garfan yn
mynnu mai eu hidiom hwy sy'n gywir a bod ffordd pobl eraill o fynegi syniad
mewn ffordd an-idiomatig yn llai cywir (cymharer pleidwyr 'bwrw'r Sul' a
fu'n destun cymaint o wawd gan yr Athro T J Morgan yn ei erthygl yn y
Genhinen 'slawer dydd, a'r rhai sy'n mynnu bod 'fewer' yn gywirach na 'less'
yn Saesneg er mai mympwy rhyw ficer yn y ddeunawfed ganrif yw'r 'rheol'
honno)?
Yn GPC, gyda llaw, fe ddyfynnir enghraifft o 'chware a'r (sic) yr organ'.
A'r dyddiad? 1606 ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Siān Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, April 25, 2006 8:04 AM
Subject: Re: Playing the crwth
Fe holais i bedwar o bobl 'ar ddierth' ac ar wahān i'w gilydd heno
beth oedd "playing the piano" yn Gymraeg - y pedwar yn Gymry iaith
gyntaf o Wynedd - gwahanol oedran.
Dywedodd un ei fod yn defnyddio'r ddau derm fel ei gilydd ac, yn
ddifyr iawn, dywedodd y tri arall rywbeth fel "Chwarae dw i'n ddweud
ond canu sy'n iawn"
Roedd yn dda ganddyn nhw glywed bod Geiriadur yr Academi a Geiriadur
Prifysgol Cymru'n cadarnhau bod eu greddf yn gywir:
GPC - chwarae - "Peri i offeryn gynhyrchu seiniau cerddorol;
perfformio (darn o gerddoriaeth) ar offeryn; cyfeilio."
Wrth feddwl am gyfeilio mewn oedfa yn y capel, bydden ni ym Mhencader
yn gofyn "Pwy sy'n whare fory?" Yma, yn Nhrefor, dw i'n meddwl mai
"Pwy sy wrth yr organ?" fydde'r cwestiwn cyffredin.
Howard
Mae arna i ofn dy fod wedi camddeall fy mhwynt am Rhisiart a Glenys.
Hwyl
Siān
On 24 Ebrill 2006, at 06:46, Rhian Huws wrote:
> Mater o farn ddwedwn i! Fyswn i'n dadlau bod y naill a'r llall bellach
> yn dderbyniol.
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws
> Sent: 24 April 2006 12:10
> To: [log in to unmask]
> Subject: Playing the crwth
>
> Anghytunaf. Canu telyn, crwth, utgorn, piano ayyb, nid "chwarae".
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.4.5/322 - Release Date: 22/04/2006
|