Os yw "chwarae'r piano" yn eithriad, diogelach fyddai glynnu at "canu",
rhag taro nodyn chwithig.
Parthed y cyfryngau torfol, y "pwynt" yw bod safon eu Cymraeg mor anghyson
(onid cyson wael) fel nad oes modd derbyn eu harweiniad ym materion
ieithyddol.
Cymraeg cywir yn "uwch-ddosbarth canol / elitaidd"? I'r gwrthwyneb: yn
fynych, ceir y Cymraeg cywiraf yng ngenau'r uniaith neu agos-uniaith nad
oes iddynt gyfoeth namyn golud ieithyddol a diwylliannol. Os cyfoeth sy'n
pennu safon ein Cymraeg, byddai llon'd Gwynedd o filiwnyddion. Arwydd awydd
ymddyrchafu yw defnyddio Cymraeg clapiog a llediaith Seisnig.
Sylwaf y daw'r cyhuddiad "uwch-ddosbarth canol / elitaidd" amlaf o du'r
uwch-ddosbarth canol elitaidd. Cynta' glyw, hwnnw yw?
Gwyddwn fod agweddau pardduol o'r fath i'w cael ymysg y gwrth-Gymraeg, ond
siom yw eu canfod ymysg cyfieithwyr, o bawb. Os nad oes gennym barch at
offer sylfaenol ein crefft, pa ddiben parhau'n gyfieithwyr?
"Arnon" (sic): gweler Gramadeg Cymraeg D. A. Thorne, tud.384. Os gwyddoch
am awdurdod amgen, rhoddwch wybod imi, os gwelwch yn dda.
|