Na fi chwaith! Dwi'n casau eu gwisgo beth bynnag!!
A beth am y rhai sy ddim cweit mor denau? (y rhai du/llwyd 40 denier?) Dydy
dweud neilon ddim o anghenraid yn awgrymu tenau - neilon ydy'r rhan fwyaf o
sanau pen-glin.
Catrin
Catrin Alun
3 Clos Glanlliw
Pontlliw
Abertawe/Swansea
SA4 9DW
01792 898327/01792 898222
----- Original Message -----
From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, March 09, 2006 8:21 PM
Subject: Re: knee-highs
Oce - Dim sanau dynion o anghenraid - ond sanau trwchus fel y rhai
roedd Catrin a minnau'n eu gwisgo i'r ysgol slawer dydd.
Tasai rhywun yn gofyn i mi fynd i brynu sanau pen-glin fyswn i ddim
yn meddwl am pop sox.
Gyda llaw - does 'da fi ddim barn gryf y naill ffordd na'r llall am hyn!
Siân
On 9 Mawrth 2006, at 03:48, Geraint Løvgreen wrote:
> Sanau dynion ydi sanau pen-glin??? Pam ??
>
> ----- Original Message ----- From: "Siân Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, March 09, 2006 6:51 PM
> Subject: Re: knee-highs
>
>
> Ond sanau dynion yw sanau pen-glin.
> Well 'da fi teits pen-glin.
> Mae'r enw yn dweud mai at y pen-glin maen nhw i fod i gyrraedd.
>
> On 9 Mawrth 2006, at 02:42, [log in to unmask] wrote:
>
>> Wyn, Wyn hawdd dweud mai dyn wyt ti a dwyt ti erioed wedi gwisgo gwisg
>> ffansi wrth berfformio ar lwyfan! Tria di gerdded mewn par o deits sy'n
>> cyrraedd y pen-glin yn unig! Sanau pen-glin yw'r oethua hyn - be
>> arall?!
>> magi
>> Ffôn / Tel: 01938 500286
>> ----- Original Message ----- From: "Wyn Hobson"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, March 09, 2006 9:46 AM
>> Subject: knee-highs
>>
>>
>>> Sef y math o deits sy'n dod i fyny at y pengliniau'n unig. Ydi'r
>>> dychymyg
>>> Cymraeg wedi bathu cyfieithiad clir a bachog am y rhain?
>>>
>>> Wyn
>>>
>>> __________ NOD32 1.1435 (20060308) Information __________
>>>
>>> This message was checked by NOD32 antivirus system.
>>> http://www.eset.com
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.375 / Virus Database: 268.2.1/277 - Release Date: 3/8/2006
|