'Trywyddau Dysgu'? Neu a ellid dweud 'addysg' yn lle 'dysgu' -
'Llwybrau/Trywyddau Addysg'?
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Rhys Scudamore" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 21, 2006 5:54 PM
Subject: Routes for Learning
Helo bawb - newydd danysgrifio fan'ma! Falle gall rhywun fy helpu.
Dwi'n edrych ar ddogfen Saesneg o'r enw 'Routes for Learning'. Mae'r
cyfieithwr wedi defnyddio 'Llwybrau dysgu' ar gyfer y teitl. Yn anffodus,
mae 'Llwybrau Dysgu' wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen ar gyfer un o'n
cyhoeddiadau eraill yn ACCAC.
Mae'r ddogfen yn disgrifio yr amryw lwybrau mae dysgwyr sydd ag anawsterau
dwys a lluosog yn gallu eu cymryd er mwyn gwneud cynydd yn eu 'cwricwlwm'.
Dw i wedi atodi 'map' (anorffenedig) sy'n mynd gyda'r ddogfen ac efallai
bydd hwn yn dangos cyd-destun y teitl yn well.
Dyma'r ymadroddion sy wedi eu hawgrymu hyd yn hyn gan bobl eraill yn yr
adran:
Y ffordd i ddysgu, Ffyrdd ar gyfer dysgu, Ar drywydd dysgu, Rhwydwaith
dysgu, Lonydd dysgu.
All unrhyw un feddwl am rywbeth mwy bachog sy'n cyfleu'r un ystyr â'r
Saesneg?
Diolch
Rhys
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.2.6/286 - Release Date: 20/03/2006
|