"Dim enw Cymraeg gwreiddiol"? Choelia'i fawr! Enw wedi'i hen golli,
efallai, ond y Gymraeg oedd - ac yw - iaith frodorol Cymru gyfan, ac y mae
tystiolaeth enwau lleoedd de Sir Benfro yn cadarnhau nad eithriad mo'r fro
honno. Diolch am y cyfeiriad at yr Atlas: rhaid wrth ganllawiau, ond gall
eu troi'n hualau esgor ar yr anysbrydoledig.
|