Tueddwn i ddweud "Y mae rhai o weithwyr y Cyngor..." neu "Y mae gweithwyr y
Cyngor...", ond nid "aelodau o staff". Os am glywed yr "o" ymwthiol Seisnig
yn ei holl ogoniant erchyll, 'does ond angen gwrando Radio Cymru:
"y posibilrwydd o ffrwydriad" (posibilrwydd ffrwydriad)
"gyda'r bwriad o redeg" (gan fwriadu rhedeg)
"y gwaith o beintio Pont Menai" (gwaith peintio Pont y Borth)
"lle o addoliad" (man addoli)
ac yn y blaen.
HH.
|