Annwyl bawb,
Gofynnodd Lowri Williams, Bwrdd yr Iaith, i mi gylchredeg y neges isod
at aelodau'r Cylch.
Mwynhewch!
Delyth
Yn /Iaith Pawb/ dogfen strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer yr
Iaith Gymraeg nodir bwriad Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddatblygu
strategaeth gyfieithu genedlaethol ar y cyd â Chymdeithas Cyfieithwyr
Cymru. Mae’r strategaeth ymgynghorol hon ar gael ar wefan y Bwrdd
www.bwrdd-yr-iaith.org.uk <http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/> , yn y
cysylltiad Strategaeth Cyfieithu
<http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/cy/cynnwys.php?cID=6&pID=109&nID=1805>,
ac ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, www.cyfieithwyrcymru.org.uk
<http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/>.
Mae pedwar prif amcan i’r strategaeth, sef:
· Asesu sefyllfa bresennol y maes cyfieithu
Cymraeg/Saesneg o ran y galw a’r diwallu.
· Datblygu’r proffesiwn cyfieithu
Cymraeg/Saesneg drwy hybu safonau cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.
· Datblygu swyddogaeth Cymdeithas Cyfieithwyr
Cymru <http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/default.asp> (CCC) fel corff
achredu a meincnodi safonau cyfieithu a chorff ymgynghorol.
· Diffinio’r strategaeth gyfieithu o fewn
cyd-destun ehangach y Gymraeg a chenhadaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg o
hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith Gymraeg.
Rydym yn awyddus i sicrhau y bydd y proffesiwn cyfieithu a’r cyhoedd yn
ehangach yn coleddu’r strategaeth, ac felly gwahoddwn y proffesiwn, a
phawb sy’n defnyddio gwasanaethau cyfieithu’n helaeth neu sydd â
diddordeb yn y maes cyfieithu i gynnig eu sylwadau arni.
Rydym wedi cynnwys cwestiynau i’w hystyried ar ddiwedd pob adran, a
gwahoddir ymatebion penodol i’r cwestiynau hynny, yn ogystal â sylwadau
cyffredinol am gynnwys y strategaeth a sut y byddai modd ei chryfhau.
Yn dilyn yr ymateb i’r ymgynghoriad hwn byddwn yn mynd ati i adolygu’r
cynigion a geir yn y strategaeth cyn cyhoeddi strategaeth derfynol, ac
yn gosod amserlen ar gyfer gweithredu’r strategaeth mewn fforwm
cenedlaethol ar gyfer y diwydiant cyfieithu a gynullir yn 2006.
Os dymunwch gynnig sylwadau ar y strategaeth hon dylid eu hanfon i’r
cyfeiriad isod:
Lowri W. Williams
Arweinydd Uned Safoni Termau a Chyfieithu
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Siambrau’r Farchnad
5/7 Heol yr Eglwys Fair
Caerdydd
CF10 1AT
[log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 3 Chwefror 2006. Ni fyddwn yn
ystyried sylwadau a dderbynnir wedi’r dyddiad hwn.
|