Ni wn ba faint o Gymraeg a siaredir yng Nghwm Elan bellach - cymeraf mai
tafodiaith Gogledd Ceredigion a fyddai. Ond gan y gallai ymwelwyr ddod o'r
De a'r Gogledd, dylid defnyddio enwau safonol (gan weithiau roi'r dewis e.e.
pryf copyn/corryn.
earthworm - mwydyn/pryf genwair: yn o^l "Linguistic Geography of Wales" Alan
Thomas, clwyir y ddau enw yn yr ardal hon.
harvestman - ni fu enw Saesneg ar hwn hyd ryw ganrif a hanner yn o^l, pan
fathwyd yr enw "harvestman" neu "harvest spider". Enwau hynafol yn Gymraeg
yw "carw'r brwyn/carw'r gwellt" a gallent fod yn gamarweiniol. "Medelwr"
yw'r enw a fathwyd yn yr 20fed ganrif. Math arall o bryf yw'r "teiliwr", y
"daddy-long-legs" neu "crane-fly".
snail - ffurf sathredig yw "malwaden". Dyweder "malwen/malwoden".
slug - nid "malwoden ddu", gan y gall gwlithen fod yn wyn neu'n llwyd:
dyweder "gwlithen".
woodlouse - "gwrach y lludw" yw'r enw mwyaf cyffredin, neu "bryf y lludw".
Enwau a fathwyd yn ddiweddar yw "chwilen grwydr" a "chwilen y llawr": hyd y
gwn nid oes enwau eraill.
Centipede/millipede- nid oes dewis ond "neidr gantroed" ar gyfer "centipede"
a "neidr filtroed" ar gyfer "millipede".
Fly larva - larfa pryf/pryfyn.
Springtail - ni welaf yr un o'r ddau enw Cymraeg yng NgPC. Eto maent yn
gyfarwydd imi: rhodder y ddau, un enw'n ogleddol, y llall yn ddeheuol.
Bruce
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 12, 2005 7:29 AM
Subject: bwystfilod bach yng Ngwm Elan
Bore da!
Rwy'n gweithio ar ddarn ar gyfer arddangosfa yng Nghwm Elan.
Oes rhywun yn gwybod beth fyddai enwau naturiol y creaduriaid bach hyn yn
yr ardal honno?
Rwy wedi cynnig yr enwau mwyaf tebygol ar gyfer rhai o'r creaduriaid ond
does gen i ddim syniad am eraill
Harvestman - Carw'r gwellt, carw'r brwyn, medelwr, teiliwr?
Spider - corryn?
Earthworm - mwydyn?
Fly larva - larfa pryfyn?
Snail - malwaden?
Slug - gwlithen, malwaden ddu?
Rove beetle - chwilen grwydr?
Ground beetle - chwilen y llawr?
Springtail - cynffon sbonc, cwtsboncyn?
Beetle larva - larfa chwilen?
Centipede - neidr gantroed?
Millipede - neidr filtroed?
Woodlouse - mochyn coed?
Diolch am unrhyw gymorth
Cofion
Siān
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/197 - Release Date: 09/12/05
|