Un pwynt ynghylch rhif 1:
Byddai'n rhaid holi'r cwsmer beth yn union a olygir wrth "consistent" a
"periodic"
A yw "yn gyson" yn cyfleu ystyr "consistent" yma?
I mi, mae "casglu a dadansoddi ... yn gyson" yn golygu "yn rheolaidd"
ond mae "consistent" yn y cyd-destun hwn fel pe bai'n golygu "yn
barhaus".
Hefyd, i mi, mae "periodic" yn cyfleu'r ystyr "o bryd i'w gilydd" ond
rwy'n gweld bod GyrA yn cynnig "yn gyson, yn gyfnodol, yn rheolaidd, bob
hyn a hyn, o dro i dro" a chefais y ddau ddiffiniad hyn ar y we:
Periodic:
recurring at regular intervals
recurring or reappearing from time to time;
Sy ddim 'run peth o gwbl!
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Wyn Hobson
Sent: 09 December 2005 19:26
To: [log in to unmask]
Subject: o
Annwyl Gyfeillion,
Dyma dri ymadrodd.
Pleidleisiwch!--
1. Establish arrangements for the consistent collection and analysis of
recruitment data and periodic reviews of market intelligence.
Naill Ai:
(a) Sefydlu trefniadau ar gyfer casglu a dadansoddi cyson o ddata
recriwtio ac adolygiadau rheolaidd o wybodaeth marchnad.
neu:
(b) Sefydlu mecanweithiau ar gyfer casglu a dadansoddi data recriwtio'n
gyson ac adolygu gwybodaeth marchnad yn rheolaidd.
[ond a ydi hon yn dehongli ystyr y gwreiddiol yn gywir?]
neu:
(c) Sefydlu trefniadau ar gyfer casglu a dadansoddi data recriwtio ac
adolygiadau rheolaidd gwybodaeth marchnad yn gyson.
neu:
(ch) Sefydlu trefniadau ar gyfer casglu a dadansoddi data recriwtio ac
adolygu gwybodaeth marchnad yn rheolaidd yn gyson.
[Na, dydw i ddim o ddifri!]
2. Appropriate monitoring of outcomes, including cost effectiveness.
Naill ai:
(a) Monitro deilliannau'n briodol, gan gynnwys cost-effeithiolrwydd.
neu:
(b) Monitro priodol o ddeilliannau, gan gynnwys cost-effeithiolrwydd.
3. A competence based assessment of training needs.
Naill ai:
(a) Asesu anghenion am hyfforddiant ar sail cymhwysedd.
neu:
(b) Asesiad ar sail cymhwysedd o anghenion am hyfforddiant.
neu:
(c) Asesiad o anghenion am hyfforddiant ar sail cymhwysedd.
Wyn
|