Mae'n siwr bod nifer fawr o bosibiliadau ar gyfer "recreational", fel "er
hamdden", "at hamdden", "wrth hamddena" etc.
Yn y bôn, does dim llawer o ots gen i am y rhan yna o'r pos:
ond "defnyddio cyffuriau" yw'r ymadrodd naturiol sy'n cyfateb yn GYmraeg
i'r Saesneg "use of drugs" ac rwy'n credu ei bod yn werth ceisio sicrhau
bod y gystrawen yn gywir.
Mae'r "defnydd o" yma yn rhemp, mewn pethau fel "y defnydd o'r Gymraeg",
(the use of Welsh),"y defnydd o dir" (land use), lle dylen ni ddefnyddio'r
berfenw.
O ran y gystrawen, beth sy'n anodd ynglyn â brawddeg fel "Mae defnyddio
cyffuriau at hamdden wedi cynyddu'n ddirfawr yn 2005, yn ôl yr heddlu."?
|