Oes 'na ryw ddatblygiad wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf?
Mae "cyffuriau hamdden" a "cyffuriau adloniadol" yn digwydd yn yr archifau -
(ceisiais ymateb i'r negeseuon hynny ond methais - dyna pam rwy'n cychwyn
edefyn newydd).
Dw i ddim yn hollol gyfforddus gyda "hamdden" nac "adloniadol" ond alla i
ddim meddwl beth arall i'w roi.
"recreational use of drugs" sydd yn y darn dan sylw.
Fyddai "defnyddio cyffuriau er mwyn pleser" yn gywir?
Diolch
Siān
|