Fe'm magwyd ar Yr Alltwen, Cwmtawe, dros 60 mlynedd yn ôl. Roedd 'didoreth'
yn, ac yn para'n, air byw, cyffredin iawn, i ddisgrifio person neu theulu
anhrefnus e.e." Sdim grân ar ei golchi hi - mae' r cewyn/ llien ar y lein yn
llwyd/ yn frwnt, -ond na fe, un ddidoreth y bu hi eriôd. Hefyd se menyw yn
golchi ar ddydd Mawrth - didoreth Mae'n ddigywilydd a'n ddidoreth, - smo'i'n
popi cino dy' Sul- mae'n rhoi tsips, wy a sosej i'r plant. Fforshêm arni. Os
fydde gardd anniben gan deulu, neu chwyn yn tyfu ar yr ale i'r drws cefn,
neu pherth neu lawnt heb ei thorri, neu llwyth o lo yn gorwedd ar yr hewl yn
aros i gael ei gario i'r ty glo - teulu didoreth fydden nhw.
Wedi dod i fyw yng Nghwmbach, Aberdâr, dros 40 mlynedd ôl, cael fod
didoreth wedi ei fabwysiadu i'r iaith fain ac yn cael ei ddefnyddio fel gair
Saesneg Yn yr un modd mae Gabalfa, yr ardal ar y drosffordd ar Heol y
Gogledd Caerdydd yn air byw yn Saesneg. Yn wreiddiol, Ceubalfa oedd enw'r
ardal yn Gymraeg, i gofio am yr amser cyn i'r afon gael ei dargyfeirio, pan
fu ceubal ( bâd a gwaelod fflat iddi) yn cael ei defnyddio fel fferi dros yr
afon.h.y Man lle'r oedd y geubal yn croesi'r afon
Mae John Edwards, Abercynon, yn ei lyfrau 'Wenglish,' yn disgrifio effaith
diriwiad yr iaith Gymraeg, ac yn son fel mae geiriau, ymadroddion a'r
gystrawen Gymraeg wedi eu derbyn i iaith bob dydd trigolion Cwm Cynon yn
Saesneg e.e. 'Mae hi o dan ofal y doctor' - 'She's under the doctor' Erbyn
imi wneud hynny ....Against I do that.... ayyb
Gwynallt
----- Original Message -----
From: "Eirian Youngman" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 01, 2005 11:20 AM
Subject: Haphazard
> Mae Cysgair yn cynnig 'damweiniol', ond dw i ddim yn licio hwnna!
>
> Unrhyw gynigion eraill plis? 'Ar hap', o bosib?
>
> Diolch
>
> Eirian
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.13.8/183 - Release Date: 25/11/2005
>
>
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.13.8/183 - Release Date: 25/11/2005
|