Neges ar ran Sylvia:
Mae'r Cynulliad yn cynnig 'mangre' mewn cyd-destun cyfreithiol, a dyna
rydym ni wedi ei ddefnyddio mewn dogfennau swyddogol/cyfreithiol sy'n
ymwneud a 'licensed premises'. Y broblem efo 'anheddau' neu 'adeiladau'
ydi bod 'premises' yn y cyd-destun hwn yn gallu cyfeirio at rywbeth nad
yw'n adeilad, er enghraifft, at long bleser lle mae trwydded gan y
perchnogion i werthu alcohol ar fwrdd y llong, neu at gerbyd yn teithio
o gwmpas sioeau a digwyddiadau eraill yn cynnig bar symudol.
Sylvia
Ysgrifennodd Ann Corkett:
>Barn bersonol yn unig. Pan fyddaf yn cyfieithu cofnodion Rheoli Datblygu,
>ar gyfer Cyngor nad yw gan milltir oddi wrthych, Heledd, defnyddiaf "eiddo"
>fel arfer ar gyfer premises, ac "anedd" ar gyfer "dwelling". Ni allaf holi
>Bruce y munud yma, ac nid wyf yn honni gwybod yn well na Robyn Lewis, ond
>imi, mae "anheddau" yn golygu mwy nag un lle - lluosog go iawn - a
>"premises" yn rhyw fath o luosog ffug (fel mae "views" = "barn").
>
>Ann
>----- Original Message -----
>From: "Heledd Mitchell" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Tuesday, November 29, 2005 2:26 PM
>Subject: Premises Licence
>
>
>A oes term cydnabyddedig?
>Mae hyn yn achosi anhawster, ac yr wyf yn awyddus i ddefnyddio'r term
>priodol gan ein bod wrthi'n cyfieithu sawl dogfen/darn o ohebiaeth ar hyn o
>bryd ynglŷn â'r Ddeddf newydd. A fyddai'n briodol inni ddefnyddio 'anheddau'
>am 'premises'? Yr hyn sy'n peri inni ffafrio 'anheddau' yw'r esboniad yng
>Ngeiriadur Newydd y Gyfraith, sy'n cwmpasu sawl elfen, tud. 680: "Gall
>anheddau olygu adeilad, neu dir (neu gyfuniad ohonynt)....Yn amlach na
>heb-ond nid bob amser yn gywir-trosir "premises" yn "adeiladau".
>I'r perwyl hwn, hwyrach y byddai'n ddoethach defnyddio 'adeiladau' - hyn o
>bosib yn gliriach, ond nid yw'n ffitio bob tro, yn enwedig yng nghyd-destun
>Deddf Trwyddedu 2003.
>
>Nid yw'r Cynulliad yn defnyddio 'anheddau', felly buaswn yn gwerthfawrogi
>unrhyw gyngor.
>
>Diolch yn fawr,
>Heledd
>
>
>
>--
>No virus found in this incoming message.
>Checked by AVG Free Edition.
>Version: 7.1.362 / Virus Database: 267.13.8/184 - Release Date: 27/11/05
>
>
>
|