Wel, mae 'Brinore' i fi yn edrych fel pe bai'r acen i fod ar y diwedd - fel
'galore' er enghraifft?
Geraint
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 21, 2005 1:03 PM
Subject: Re: Brinore Tramroad
Diolch Geraint - ydi ond mae "Brynoer" yn ymddangos 57 o weithiau ar
Gwgl!
Meddwl oeddwn i tybed lle mae'r acen ar y gair yn y Gymraeg. Mae
"Brinore" yn awgrymu erallai eu bod yn dweud "Brynoer" â'r acen ar y
"Bryn" yn hytrach na "Bryn Oer" - mae pethau od yn digwydd i eiriau
Cymraeg mewn ardaloedd di-Gymraeg weithiau!
Diolch
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
Løvgreen
Sent: 21 November 2005 12:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Brinore Tramroad
1) Mae "Bryn Oer Tramroad" yn ymddangos 45 gwaith ar Gwgl. Ar wefan y
Dramffordd
http://brinore-tramroad.powys.org.uk/
maen nhw'n cadarnhau mai llygriad o "Bryn Oer" ydi'r enw ac yn egluro
pam eu
bod nhw wedi cadw'r erthyl 'Brinore'.
Tramffordd Bryn Oer amdani felly.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 21, 2005 12:16 PM
Subject: Brinore Tramroad
Helo!
Rwy'n gweithio ar ddarn am y Brinore Tramroad - sy'n rhedeg o ardal
Tredegar i'r gamlas yn Nhal-y-bont ar Wysg.
Rhai cwestiynau:
1) Enw Cymraeg: Tramffordd Brynoer / Bryn-oer / Bryn Oer ?
2) Ai "tramiau" fyddai'r enw Cymraeg am y cerbydau oedd yn rhedeg ar y
dramffordd?
3) Ai "haliers" fyddai'r enw Cymraeg am "hauliers"?
4) Os oedd y tramiau'n rhedeg yn rhy gyflym i lawr y rhiw, byddai darn o
bren yn cael ei roi yn yr olwynion - "a wheel being locked (spragged)
with
a piece of wood". Mae GyrA yn rhoi "strôc", "strocen" a "sbrogen"
am "sprag (n)" a "strocio" am y ferf. Mae CysGair yn rhoi "sbragio" am
y
ferf. Tybed pa ffurf fyddai'n cael ei defnyddio yn yr ardal benodol
hon?
5) Roedd y mannau pasio'n cael eu galw'n "turnouts". Oes gair Cymraeg?
|