Wn i bod yna drafodaethau fyrdd wedi bod ar 'identify' ond yn yr achos yma
mae hi wedi mynd yn nos arna i. Does na fawr o ddiben gofyn i'r cleient
achos dydi o ddim yn medru Cymraeg ac egluro'r gwahaniaethau rhwng
'uniaethu', 'adnabod' a 'chanfod' ydi craidd y broblem yn y lle cynta.
Brawddeg gynta adroddiad gan Gyngor Sgiliau Sector y Diwydiannau Creadigol
a Diwylliannol ydi hon:-
"Culture, creativity and performing talent have long served to identify
Wales both to itself and the wider world. Indeed, there can be very few
national anthems in which a group of creative practitioners are honoured
above all others!"
Dwi'n teimlo bod 'adnabod' yn rhy gry - mae'n awgrymu na dydan ni na neb
arall yn adnabod Cymru blaw am y pethau hyn. 'moddion/nodau
canfod/uniaethu' tybed? Neu 'nodi' ella? Ee 'Ers talwm ei diwylliant ayyb
sy'n nodi Cymru ayyb' Mwya dwi'n meddwl am y peth mwya dwi'n drysu, ac yn
meddwl ydi'r frawddeg yn golygu rwbath o gwbwl?
Help, plis. Diolch ymlaen llaw.
Annes
|