Mae 'annedd' i mi yn golygu rhywle lle mae rhywun yn byw - dydi hynny ddim o
reidrwydd yn wir am 'premises', ydi o?
----- Original Message -----
From: "Heledd Mitchell" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 29, 2005 2:26 PM
Subject: Premises Licence
A oes term cydnabyddedig?
Mae hyn yn achosi anhawster, ac yr wyf yn awyddus i ddefnyddio'r term
priodol gan ein bod wrthi'n cyfieithu sawl dogfen/darn o ohebiaeth ar hyn o
bryd ynglŷn â'r Ddeddf newydd. A fyddai'n briodol inni ddefnyddio 'anheddau'
am 'premises'? Yr hyn sy'n peri inni ffafrio 'anheddau' yw'r esboniad yng
Ngeiriadur Newydd y Gyfraith, sy'n cwmpasu sawl elfen, tud. 680: "Gall
anheddau olygu adeilad, neu dir (neu gyfuniad ohonynt)....Yn amlach na
heb-ond nid bob amser yn gywir-trosir "premises" yn "adeiladau".
I'r perwyl hwn, hwyrach y byddai'n ddoethach defnyddio 'adeiladau' - hyn o
bosib yn gliriach, ond nid yw'n ffitio bob tro, yn enwedig yng nghyd-destun
Deddf Trwyddedu 2003.
Nid yw'r Cynulliad yn defnyddio 'anheddau', felly buaswn yn gwerthfawrogi
unrhyw gyngor.
Diolch yn fawr,
Heledd
|