Dwi'n licio panad hefyd
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 18 October 2005 14:55
To: [log in to unmask]
Subject: Freshly brewed coffee or tea
Mae'n ddrwg gen i; nid gwahoodiad yw'r uchod, ond rhan o fwydlen.
Bu anghytuno rhwng Bruce a finnau ynghylch "Freshly brewed coffee or
tea". 'Roeddwn i o blaid "Coffi, a wneir yn ffres, neu de", gan ddadlau
bod pawb yn derbyn y bydd te yn ffres bob tro, ond mi all y coffi fod yn
goffi parod. Gwell gan Bruce "Coffi neu de ffres" neu "Te neu goffi
ffres". Mae'r ail yn ddigon amwys, ond nid yw'n arfer rhoi'r
flaenoriaeth i de mewn bwydlen cinio.
A all unrhyw un gynnig rhywbeth i dorri'r ddadl. Os na, "Te neu goffi
ffres" amdani.
Diolch,
Ann
|