Beth fyddai ymateb rhywun digartref i'r cwestiwn hwn???
Helen
Ysgrifennodd Berwyn Jones:
> Ydych chi wedi sylwi ar ymlediad y gair 'issue' i olygu 'problem' neu,
> yn hytrach, i osgoi defnyddio'r gair 'problem'? 'I don't have an issue
> with that' neu 'we'd better meet to discuss your financial issues' ac
> ymadroddion o'r fath. Mae'n debyg mai'r awydd diweddaraf yw osgoi bod â
> "phroblemau" o unrhyw fath.
>
> Y broblem, y cwestiwn neu'r 'issue' sy'n codi wedyn yw sut mae
> cyfieithu'r gair 'issue'? A ddylid dweud 'problemau' yn blwmp ac yn
> blaen neu chwilio, fel y llefarydd, am ffordd o osgoi defnyddio'r gair
> drwy ddweud, er enghraifft, 'Dyw hynny ddim yn fy mhoeni i/Dyw hynny
> ddim yn achosi trafferth i mi'? Ond beth am 'financial issues'? Go brin
> bod 'materion ariannol' yn cyfleu natur broblemus yr hyn sy'n cael ei
> ddweud, ac efallai fod 'trafferthion ariannol' yn rhy ddiflewyn ar
> dafod. Byddai 'eich sefyllfa ariannol' yn dirionach cynnig, wrth gwrs,
> ond a ddylem ni chwilio am dirionach ymadrodd bob amser?
>
> A pha eiriau eraill sy'n newid eu hystyr (neu y gwyrdroir eu hystyr) fel
> hyn?
>
> Berwyn
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
=^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
|