Cyffwrdd yr ydym a^ gwahanol ystyron "hunaniaeth".
1. Ein syniad ein hunain o beth ydym, sef ein hymwybyddiaeth o'n bodolaeth
ein hunain ac, o ganlyniad, o'r hyn sy'n ein huno ag eraill cyffelyb inni.
Cenedligrwydd, e.e.
2. Y cyfuniad nodweddion hynny sy'n ein gwahanu rhag eraill, ac yn rhoi
inni ein hunigrywiaeth, h.y. pwy ydym. Enw, cyfeiriad, e.e.
At y dibenion o dan sylw, credaf fod yr ail yn agosaf ati na'r cyntaf, ac y
byddai "Y mae pwy ydych..." yn addasach na "Mae eich hunaniaeth..."
HH.
|