Mae 'sôn am' yn gallu bod yn dwt iawn, e.e. 'it is/was reported' 'mae/roedd
sôn bod'. A dyw 'adrodd ar' yn ddim ond trosi geiriau Saesneg eto. Cnocier
ef ar ei ben. Ers pryd mae Google yn arbenigwr, beth bynnag!
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 16 September 2005 11:01
To: [log in to unmask]
Subject: Adrodd ar, Adrodd am
Mae Gwgl yn rhoi 16,200 o enghreifftiau o "adrodd ar" a "9,910" o "adrodd
am".
Oes gwahaniaeth - os oes, beth yw'r gwahaniaeth? A fyddai'n well osgoi
defnyddio 'adrodd' o gwbl a defnyddio awgrymiadau Berwyn yn ei eirfa -
"to report - rhoi gwybod am, cyflwyno adroddiad(au) ar; they r. improved
attendance - fe geir, meddant, well presenoldeb; to r. for work - eu
cyflwyno'u hunain i weithio; the circumstances as r.-ed - yr amgylchiadau
fel y'u disgrifiwyd (mewn/yn yr adroddiad)"
Trafoder (a diolch!).
Muiris
---
|