Oes rheswm dros gadw'r lluosog '-ics'? Mae 'physics' yn rhoi 'ffiseg',
'mathematics' yn rhoi 'mathemateg'. Os gallwn edrych ar y gair fel un unigol
sy'n cwmpasu gwyddor, neu beth bynnag, a fyddai 'hydrolig' yn bosib, a chadw
'hydroleg' am 'hydrology'?
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws
Sent: 07 September 2005 10:23
To: [log in to unmask]
Subject: Hydraulics a Hydrology.
Rhydd GyrA "Hydroleg" am "Hydrology" a "Hydraulics", ond y mae gwahaniaeth
sylfaenol rhyngddynt.
"Hydraulics" = gwyddor nodweddion mecanyddol symudiad hylifau mewn tiwbiau
neu sianelau.
"Hydrology" = gwyddor presenoldeb dwr ar y ddaear ac yn ei hawyrgylch, y
defnydd a wneir ohono, ei lif, ayyb.
O gadw "Hydroleg" am "Hydrology", oes yna enw arall ar
gyfer "Hydraulics"? "Hydroligau", efallai? Neu ga'i fod mor hy ag
awgrymu "Hydrafleg"? (O gofio bod "hydraulics" yn tarddu o "hydor" (dwr)
ac "aflis" (pibell).
HH.
---
|