Mae Gwgl yn rhoi 16,200 o enghreifftiau o "adrodd ar" a "9,910" o "adrodd
am".
Oes gwahaniaeth - os oes, beth yw'r gwahaniaeth? A fyddai'n well osgoi
defnyddio 'adrodd' o gwbl a defnyddio awgrymiadau Berwyn yn ei eirfa -
"to report - rhoi gwybod am, cyflwyno adroddiad(au) ar; they r. improved
attendance - fe geir, meddant, well presenoldeb; to r. for work - eu
cyflwyno'u hunain i weithio; the circumstances as r.-ed - yr amgylchiadau
fel y'u disgrifiwyd (mewn/yn yr adroddiad)"
Trafoder (a diolch!).
Muiris
|