Er cymaint y byddai'n well gen i beidio ag anghytuno â Llywydd er Anrhydedd
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, heb sôn am anghytuno ag Elwyn, byddwn i'n
barnu mai'r cwsmer sydd i benderfynu pa ffurf y mae'n dymuno'i rhoi ar
ffigurau yn ei destun.
Os yw'n dweud '2 stars', fe roddaf '2 seren' yn fy nghyfieithiad. Os yw'n
dweud 'two stars', fe roddaf 'dwy seren'.
Os yw'n dweud '23 April 1999' fe roddaf '23 Ebrill 1999', nid 'y trydydd ar
hugain o Ebrill mil naw naw naw' er y gall rhai darllenwyr ddweud
'twenty-three/dau ddeg tri Ebrill nineteen ninety nine' yn eu meddyliau.
I mi, yr unig eithriadau i'r rheol yw:
1. sillafu ffigurau pan fydd y sgript i gael ei darllen neu ei recordio a
bod angen tipyn o arweiniad ar y sawl sy'n ei llefaru, a
2. pan geir '2 hours' neu '2 days' neu ffurfiau tebyg yn y gwreiddiol. Os
digwydd hynnny, y ffurfiau cywir, yn fy marn i, yw 'dwyawr', 'deudydd' ac
ati.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 28, 2005 11:41 AM
Subject: Re: 2million/2 billion
Ie, llithriad, mae'n rhaid, fu dynodi biliwn yn fenywaidd yng NgyrA.
I wahaniaethu rhwng "biliwn" a "miliwn" felly, byddai'n gymorth petaem yn
dilyn anogaeth John Elwyn Hughes a pheidio ag ysgrifennu mewn ffigyrau, h.y.
ysgrifennu "dau filiwn" neu "dwy filiwn" yn lle "2 filiwn". Fel y dywed ef,
wrth weld y ffigyrau 2, 3, 4 y tuedd yw dweud "dau", "tri", "pedwar" hyd yn
oed o flaen enw benywaidd.
Er hynny, prin fydd y nifer ohonom a all gofio pa un o'r ddau rif sy'n
wrywaidd a pha un sy'n fenywaidd. Cymhlethir y mater gan y newid a fu yn
ystyr "billion". Yr ystyr gywir yw miliwn miliwn, a dyna a fu'n safonol yn
y Deyrnas Unedig. Er hynny, yn ddiweddar newidiwyd yr ystyr gan ddilyn
arfer America, i olygu mil o filynau. Ar gyfer yr ystyr newydd hon, i osgoi
unrhyw gamddealltwriaeth, dylid arfer y ffurf "milfiliwn" a restrir yng NgPC
fel enw benywaidd (yn betrus), yng Ngeiriadur Edward Anwyl (Spurrrell) ac
yng NgyrA. Yr ansoddair cyfatebol fydd "milfiliynfed".
Dyna ddatrys yr anhawster mi gredaf.
Bruce
----- Original Message -----
From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 28, 2005 8:58 AM
Subject: Re: 2million/2 billion
Ysgrifennodd Dwynwen:
> Diolch i chi Muiris a Berwyn am y cyfeiriad i GyG - ond yn fy
> marn i mae'r broblem yn dal i godi ar ol *dau *- mae *dau filiwn*
> yn swnio fel defnydd anghywir o'r rhifolyn yn hytrach na
> threiglad o *Biliwn .*
>
> Dwi'n cytuno braidd efo Berwyn - derbyn fod miliwn a biliwn
> yn fenywaidd a pheidio treiglo biliwn ar ol dwy oedd fy
> ngreddf gyntaf innau i osgoi unrhyw amwysedd neu gamddeall. .
>
> Mi faswn i'n reit hapus i ddefnyddio *dau biliwn* neu *dwy
> biliwn* - o leia mae'r ddau yna yn gneud yn glir mai *biliwn*
> olygir. Ond pa un ddylwn i fynd amdano???
> Dwynwen
>
>
> --- Original Message -----
> *From:* Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 6:15 PM
> *Subject:* Re: 2million/2 billion
>
> Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, td. 138, adran 4.8(a):
>
> "Dau enw arall y gall eu ffurfiau orymylu yn sgîl treiglo yw
> /biliwn/ a /miliwn/. Ni fydd unrhyw amwysedd pan oleddfir y ddau
> hyn gan rifolion,
> e.e. biliwn: dau filiwn, tri biliwn, pum biliwn
> miliwn: dwy filiwn, tair miliwn, pum miliwn."
>
> Awgryma ymhellach fod modd osgoi amwysedd rhwng biliwn a miliwn os
> cânt eu treiglo, a hynny drwy ddweud 'un biliwn' yn lle 'biliwn'
> ac 'un filiwn' yn lle 'miliwn'.
>
> Yn anffodus, dyw hynny ddim yn gweithio os defnyddir y rhif: dyw
> '2 filiwn' ddim yn ddiamwys. Byddai'n rhaid dweud '2 biliwn'.
>
> Mae Geiriadur y Brifysgol, y Geiriadur Cymraeg Cyfoes a'r
> Termiadur yn cytuno â Peter mai gair gwrywaidd yw 'biliwn', ond yn
> groes i hynny dywed Geiriadur yr Academi mai gair benywaidd ydyw
> (os felly, byddwn i'n dweud 'dwy biliwn').
>
> Rwy'n teimlo 'mod i wedi gwneud y tywyllwch yn dywyllach byth! Pa
> Gymro neu Gymraes welai'r gwahaniaeth enfawr rhwng '*dwy* filiwn'
> a '*dau* filiwn'? Os yw 'miliwn' yn fenywaidd, pam y dylai
> 'biliwn' fod yn wrywaidd? Oni fyddai'n well i'r ddau enw fod yn
> fenywaidd a pheidio â threiglo 'biliwn' ar ôl 'dwy'?
>
Wow! Peth peryg iawn yw rhagnodi cenedl enw, gan fod treiglo yn rhywbeth
sy'n digwydd yn reddfol i siaradwyr Cymraeg rhugl. Lle ceir tystiolaeth
fod gair yn cymryd cenedl arbennig yn yr iaith, dylid glynu at hynny. Yn
achos 'biliwn' mae enghraifft Geiriadur Prifysgol Cymru yn dyddio o 1725
ac yn nodi 'biliwn neu ddau' yn ddiamwys. Mae'n bosib mai llithriad yw
nodi 'biliwn' fel benywaidd yng Ngeiriadur yr Academi, ac nid yw'n
ddigon o dystiolaeth ar ei ben ei hun i newid cenedl gair. Y mwyaf y
gellid gwneud os daw tystiolaeth o rywle arall y gall 'biliwn' fod yn
fenywaidd hefyd yw ei nodi fel enw gwrywaidd/benywaidd. Yn y cyfamser,
mae'n well peidio 'biliwn' lle byddai'n achosi amwysedd.
Delyth
>
> Ond pwy ydw i i ddeddfu?
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Dwynwen <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 5:31 PM
> *Subject:* 2million/2 billion
>
> Tybed fedrwch chi helpu.
> Isio gwahaniaethu rhwng 2 million a 2 billion yn Gymraeg
> Hyd y gwela i o gyfieithu a rhoi'r treiglad meddal yn ei le
> *dwy filiwn* geir am y ddau !!
> Ddylai rhywun beidio treiglo "Biliwn" i roi *dwy biliwn *er
> mwyn gwahaniaethu??
>
> Diolch
> Dwynwen
>
>
> ------------------------------------------------------------------
------
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release
> Date: 23/09/2005
>
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date: 23/09/2005
|